BETH YW ANABLEDD DYSGU
Mae pobl sydd ag anableddau dysgu yr un fath â phawb arall – gydag un gwahaniaeth yn unig: maent yn dysgu yn arafach. Mae pob unigolyn sydd ag anableddau dysgu yn unigryw, ni all unrhyw un ddweud sut unigolion ydyn ‘nhw’. Fodd bynnag, mae gan rai gyflyrau penodol, fel Syndrom Down.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd ag anableddau dysgu wedi cael eu geni fel hyn. Mae rhai yn cael eu heffeithio ar enedigaeth, ac mae eraill yn cael eu heffeithio yn nes ymlaen yn ystod eu bywydau, o ganlyniad i frechiadau neu ddamweiniau ffordd, er enghraifft.
Mae galluoedd pobl, a’u hanghenion, yn amrywio’n fawr. Gall rhai pobl sydd ag anableddau dysgu fod yn ddibynnol iawn – a bydd angen iddynt gael help gyda nifer o weithgareddau, fel bwyta, gwisgo, hylendid personol, symud, mynd allan, dewis dillad, cyfarfod â ffrindiau ac ati.
Gall eraill fod yn annibynnol iawn, a gallant ddarllen, ysgrifennu a defnyddio arian, byw ar eu pen eu hunain, cael perthnasoedd agos ac ymdopi trwy gael ychydig gymorth yn unig. Gall rhai pobl gyflawni rhai pethau mewn ffordd fedrus iawn, ond nid pethau eraill.
Yn ogystal, efallai y bydd gan bobl sydd ag anableddau dysgu anableddau corfforol a/neu synhwyraidd hefyd – fel epilepsi, problemau iechyd meddwl ac ati.
Mae nifer o bobl sydd ag anableddau dysgu yn byw ar incwm isel, mewn cartrefi gwael, heb lawer o bosibilrwydd y byddant yn cael gwaith.
TERMINOLEG
Ceir cryn ddadl ynghylch a ddylid defnyddio termau fel:
- 'anabledd dysgu’
- 'anawsterau dysgu’ neu
- 'anfantais feddyliol'.
Tan yn gymharol ddiweddar, ‘anfantais feddyliol’ oedd y term cyffredin. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhai a alwyd yn bobl gydag ‘anfantais feddyliol’ wedi gofyn i bobl gyfeirio atynt fel ‘pobl sydd ag anawsterau dysgu’.
Mae llywodraeth y DU wedi dechrau defnyddio’r term ‘anabledd dysgu’. Mae’r rhain i gyd yn labeli, ac nid oes unrhyw un ohonynt yn dderbyniol i bawb. Mae un grŵp wedi gofyn i bobl eu galw yn ‘bobl nad ydynt yn hoffi cael eu labelu’.
STATWS CYFREITHIOL
Gan bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn fwy agored i niwed nag unigolion eraill, mae rhai cyfreithiau penodol yn effeithio arnynt. Nid oes un gyfraith neu Ddeddf Seneddol yn delio â’u sefyllfa yn gyfan gwbl, ond fe allai cyfreithiau sy’n ymwneud â’r materion canlynol effeithio arnynt:
- addysg,
- hawliau pleidleisio,
- bod yn berchen ar eiddo,
- gwarcheidiaeth,
- rheoli cyllid personol,
- cydsynio i gael rhyw ac ati.
Yn y Deyrnas Unedig, erbyn 2003, roedd deddfwriaeth benodol a oedd yn effeithio ar bobl sydd ag anableddau dysgu yn cynnwys:
- Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd,
- Y Ddeddf Iechyd Meddwl,
- Y Ddeddf Gofal yn y Gymuned, a’r
- Ddeddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol.
Yn ogystal, ceir deddfau penodol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, a phobl sy’n byw mewn sefydliadau. Ni ddisgwylir i eiriolwyr wybod popeth am y cyfreithiau hyn. Weithiau, bydd angen i eiriolwyr ofyn i gyfreithwyr neu asiantaethau fel y Canolfannau Cyngor ar Bopeth am gyngor arbenigol.

c/o Mind Buildings, The Mill, Riverside Terrace, Mill Street, Aberystwyth SY23
1JB 

