Eich Dewi Chi / Your Choice
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Eich helpu chi:
- I wneud dewisiadau am eich bywyd.
- I gael help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Gwasanaethau Iechyd os bydd angen help o’r fath arnoch.
- I gael gwybod am eich hawliau.
- I ddod o hyd i gyfleoedd hamdden, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
- I wneud cwyn pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le.
Gall eiriolwr:
- Wrando arnoch.
- Casglu gwybodaeth ar eich cyfer, neu gysylltu â rhywun a fydd yn gallu casglu gwybodaeth ar eich cyfer.
- Eich helpu i gynllunio unrhyw gamau gweithredu y bydd angen i chi eu cymryd neu y byddwch yn dymuno eu cymryd.
- Ysgrifennu llythyrau a gwneud galwadau ffôn gyda chi, neu ar eich rhan.
- Gwneud yn siŵr bod eich safbwyntiau yn cael eu clywed trwy fynychu cyfarfodydd/adolygiadau gyda chi.
- Treulio amser gyda chi yn paratoi ar gyfer cyfarfodydd.
- Darganfod ffyrdd eraill y gallwch gael cymorth.
- Darganfod beth yw’ch hawliau.
- Cysylltu gydag asiantaethau perthnasol.
< Yn ôl